Mewn llys yn  Connecticut, mae dau ddyn gafodd eu hestraddodi o Brydain wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiadau eu bod wedi darparu arian, offer a recriwtiaid i derfysgwyr yn Afghanistan a Chechnya.

Roedd Babar Ahmad a Syed Talha Ahsan wedi ymddangos gerbron llys yn New Haven heddiw. Cafodd y ddau eu cadw yn y ddalfa nes bod eu hachos yn dechrau.

Maen nhw wedi eu cyhuddo o gynnal gwefannau i recriwtio ar gyfer rhwydwaith al Qaida a gwrthryfelwyr Chechnya.

Fe gyrhaeddodd y ddau yr UDA yn gynnar heddiw ar ôl bod yn brwydro am flynyddoedd yn erbyn cael eu hestraddodi o Brydain.

Fe fydd tri o derfysgwyr honedig arall hefyd yn ymddangos yn y llys yn Efrog Newydd heddiw.