Jeremy Hunt
Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt wedi dweud ei fod o blaid tynhau’r gyfraith yn ymwneud ag erthyliad.

Mewn cyfweliad gyda phapur The Times, dywedodd Jeremy Hunt y dylid gwahardd erthyliad ar ôl 12 wythnos, sef hanner y cyfyngiad presennol o 24 wythnos.

Ond mae’r Ysgrifennydd Iechyd wedi pwysleisio y byddai newid y gyfraith yn ddibynnol ar bleidlais rydd yn y Senedd.