Mae dau newyddiadurwr o bapur newydd The Sun ac un plismon wedi cael eu harestio fel rhan o ymchwiliad Elveden i daliadau i swyddogion cyhoeddus.

Mae dyn 32 oed o Lundain a dyn 51 oed o Fryste yn y ddalfa ar amheuaeth o dwyll a chamymddwyn.

Mae plismon 39 oed sy’n gweithio i Heddlu Wiltshire wedi cael arestio ar amheuaeth o’r un troseddau.

Mae’r ymchwiliad yn cael ei gynnal ochr yn ochr â Weeting, sy’n archwilio honiadau o dorri i mewn i ffonau.

Cadarnhaodd Heddlu Scotland Yard fod News Corporation, y cwmni sy’n berchen y papur, wedi darparu gwybodaeth trwy ei bwyllgor safonau rheoli.

Mae News Corporation wedi cadarnhau bod y ddau newyddiadurwr yn gweithio i’r cwmni, ond dydyn nhw ddim wedi rhyddhau rhagor o wybodaeth.