Tessa Jowell
Mae llefarydd yr wrthblaid ar y Gemau Olympaidd, Tessa Jowell, wedi cyhoeddi ei bod yn rhoi’r gorau i wleidyddiaeth rheng flaen ar ôl 20 mlynedd.

Roedd yr AS Llafur wedi chwarae rhan flaenllaw yn yr ymdrech i gael y Gemau Olympaidd i Lundain  pan oedd yn y Llywodraeth, ac wedi chwarae rôl amlwg yn yr wrthblaid.

Dywedodd arweinydd Llafur Ed Miliband na fyddai’r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd wedi bod yn bosib heb ymdrech Tessa Jowell.

Cafodd y cyn weithiwr cymdeithasol ei hethol yn Aelod Seneddol yn 1992 gan ddod yn un o weinidogion amlwg Llywodraeth Lafur Tony Blair yn dilyn etholiad 1997.

Cafodd ei phenodi’n weinidog iechyd cyhoeddus ym 1997 cyn cael ei dyrchafu’n weinidog cyflogaeth a gweinidog dros ferched ym 1999. Fe ymunodd â’r cabinet fel Ysgrifennydd Diwylliant yn 2001.

Fe wrthododd dderbyn cyngor y gwasanaeth sifil na ddylai Prydain wneud cais i gynnal y Gemau Olympaidd yn Llundain.

Mae’r Fonesig Tessa Jowell yn cynrychioli sedd Dulwich a Gorllewin Norwood.