Mae Natalie Bennett wedi cael ei hethol yn arweinydd newydd y Blaid Werdd yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r cyn newyddiadurwraig 46 oed o Awstralia y bydd yn brwydro yn erbyn toriadau’r Llywodraeth.

Cafodd ei phenodi ar ôl i’r Aelod Seneddol Caroline Lucas benderfynu rhoi’r gorau i’w swydd. Dywedodd Caroline Lucas ei bod hi eisiau rhoi’r cyfle i dalent newydd o fewn y Blaid Werdd ddod i’r amlwg.

Fe fydd y blaid yn cyhoeddi enw’r  dirprwy arweinydd newydd maes o law, ar ôl i Adrian Ramsay gamu o’r neilltu hefyd.

Caroline Allen, Will Duckworth, Richard Mallender ac Alexandra Phillips yw’r enwau sydd wedi cael eu rhoi ymlaen i fod yn ddirprwy arweinydd.

Fe fydd Natalie Bennett  yn camu i mewn yn syth i’r swydd yn ystod cynhadledd y blaid ym Mryste ddydd Gwener.