Bydd y Blaid Werdd yn cyhoeddi pwy fydd arweinydd newydd y blaid yng Nghymru a Lloegr heddiw, yn dilyn penderfyniad Caroline Lucas i roi’r gorau i’r swydd.
Cafodd y broses i ddod o hyd i’w olynydd ei lansio pan gyhoeddodd yr Aelod Seneddol nad oedd hi’n mynd i redeg am y swydd eto yn dilyn diwedd ei hail gyfnod dwy flynedd wrth y llyw.
Fe gamodd y dirprwy arweinydd, Adrian Ramsay, o’r neilltu hefyd. Mi fydd yntau hefyd yn cael ei olynu.
Dywedodd Caroline Lucas ei bod hi eisiau rhoi’r cyfle i dalent newydd o fewn y Blaid Werdd ddod i’r amlwg.
Rhaid penodi dyn a dynes
Mae rheolau cydraddoldeb y Blaid Werdd yn golygu y dylai dyn a dynes gael eu penodi i’r swyddi.
Daeth y pleidleisio i ben ddydd Gwener gyda’r blaid yn enwebu Natalie Bennett, Pippa Bartolotti, Peter Cranie a Romayne Phoenix am swydd yr arweinydd.
Caroline Allen, Will Duckworth, Richard Mallender ac Alexandra Phillips yw’r enwau sydd wedi cael eu rhoi ymlaen i fod yn ddirprwy arweinydd.
Mi fydd arweinydd newydd y Blaid Werdd yn mynd yn syth i’r swydd ar gyfer cynhadledd yr hydref sy’n cael ei gynnal ym Mryste ddydd Gwener.
Ar ôl y cyhoeddiad, dywedodd Caroline Lucas ei bod am barhau fel Aelod Seneddol dros Bafiliwn Brighton.