David Cameron
Fe fydd Aelodau Seneddol yn  dychwelyd ar gyfer tymor newydd heddiw ac mae disgwyl i David Cameron gyhoeddi y bydd yn ad-drefnu ei Gabinet mewn ymdrech i dawelu’r ffraeo o fewn ei blaid ynglŷn â’i arweinyddiaeth.

Fe fydd y Prif Weinidog yn ceisio adfer ei awdurdod gyda’r ad-drefnu cyntaf ers i’r Glymblaid ddod i rym yn 2010.

Ar yr un pryd mae disgwyl i weinidogion wneud cyfres o gyhoeddiadau er mwyn ceisio hybu’r economi.

Roedd David Cameron wedi ymateb i’w feirniaid mewn erthygl mewn papur dydd Sul drwy ddatgan ei fwriad i roi diwedd i’r “parlys” sy’n dal y wlad yn ôl.

Mae disgwyl i’r rhan fwyaf o aelodau’r Cabinet barhau yn eu swyddi ond mae rhai Aelodau Seneddol Ceidwadol yn awyddus i weld wyneb newydd yn cymryd lle’r Farwnes Warsi fel cadeirydd y blaid.

Mae’r gweinidog cyflogaeth Chris Grayling a’r gweinidog tai Grant Shapps yn enwau posib.