Y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg o dan bwysau cynyddol gan aelodau o’i blaid ei hun.

Dywed Democratiaid Rhyddfrydol blaenllaw nad yw’r Dirprwy Brif Weinidog yn ‘anhepgor’ ac y gallai’r Ysgrifennydd Busnes Vince Cable gymryd ei le.

Mae un o Aelodau Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol, Adrian Sanders, yn pwyso ar Nick Clegg i gymryd camau i ailadeiladu cefnogaeth o fewn y blaid, ac mae un o’u harglwwyddi’n ei gyhuddo o fod heb unrhyw fath o weledigaeth strategol.

“Mae Nick Clegg yn nofio fel corcyn ar y tonnau,” meddai’r Arglwydd Smith o Clifton, cyn-athro prifysgol mewn gwleidyddiaeth. “Mae gan Vince Cable yr apêl a’r hygrededd i arwain y Democratiaid Rhyddfrydol i’r etholiad nesaf,” ychwaenegodd.

Aeth is-gadeirydd rhanbarth Dyfnaint a Chernyw o’r blaid, Andrew Bridgwater, ymhellach, gan alw ar Nick Clegg i fynd:

“Gorau pob gyntaf y bydd Nick yn ymddiswyddo a gwneud lle i Vince,” meddai. “I siarad yn blaen, fe fyddwn i’n annog Vince Cable i sefyll am yr arweinyddiaeth i fynd â ni i’r etholiad nesaf.”

Daw eu sylwadau ar ôl i un o brif gefnogwyr Nick Clegg, yr Arglwydd Oakeshott, rybuddio’r wythnos ddiwethaf y gallai fod rhai i’r blaid ystyried newid ‘rheolaeth a strategaeth’ os yw am gael unrhyw siawns yn yr etholiad cyffredinol nesaf.