George Osborne
Mae George Osborne wedi rhybuddio yn erbyn gyrru pobl gyfoethog o’r wlad ar ôl i Nick Clegg alw am dreth dros dro ar y rhai mwyaf cyfoethog.

Dywedodd y Canghellor ei fod eisoes wedi cymryd camau i sicrhau bod rhai o bobl fwyaf cyfoethog y DU yn talu mwy, ond dywedodd ei fod yn hanfodol  i Brydain ddal ei gafael ar entrepreneuriaid a fyddai’n hybu twf yr economi.

“Mae’n rhaid i ni fod yn ofalus fel gwlad nad ydyn ni’n gyrru i ffwrdd y rhai sy’n creu cyfoeth a busnesau sydd am adfer yr economi,” meddai George Osborne.

Roedd y Dirprwy Brif Weinidog wedi awgrymu y gallai’r rhai sydd â chyfoeth sylweddol gyfrannu mwy tuag at helpu’r economi. Mae’n cael ei weld fel ymdrech i apelio at aelodau’r Democratiaid Rhyddfrydol cyn cynhadledd flynyddol y blaid fis nesaf.

Ond mae rhai wedi beirniadu Nick Clegg gan ddweud ei fod wedi pleidleisio dros ostwng lefel uchaf y dreth incwm yn y gyllideb ym mis Mawrth, gan olygu bod y rhai sy’n ennill y cyflogau uchaf yn y DU yn elwa.