Nick Clegg
Mae Nick Clegg wedi galw ar bobl fwyaf cyfoethog Prydain i wneud “cyfraniad ychwanegol” i’r ymdrech i hybu’r economi.

Mewn cyfweliad gyda’r Guardian, fe awgrymodd y Dirprwy Brif Weinidog y gallai pobl sydd â chyfoeth personol sylweddol wneud cyfraniad byr dymor i geisio gwella’r economi.

Mae disgwyl i Nick Clegg ymhelaethu ar ei gynlluniau i gyflwyno treth bosib ar y cyfoethog yng nghynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Brighton fis nesaf, yn ôl yr adroddiad.

Dywedodd Nick Clegg wrth y papur: “Os ydyn ni am ofyn i bobl wneud aberth dros gyfnod hir o amser… yna mae’n rhaid i ni sicrhau bod pobl yn gweld bod hynny’n cael ei wneud mor deg â phosib.”

Mae ei sylwadau yn awgrymu ei fod yn ceisio o’r newydd i wahaniaethu rhwng safiad economaidd ei blaid o fewn y Glymblaid a’r Ceidwadwyr.