Gwrthwynebwyr - David Cameron a Nick Clegg
Fe fydd dau arweinydd y glymblaid yn Llundain yn mynd ben ben yn erbyn ei gilydd wrth ddechrau ymgyrch y refferendwm AV.

Mae’r Prif Weinidog a’i Ddirprwy’n dweud eu bod am ymgyrchu’n erbyn ei gilydd heb ffraeo ond fe fydd eu hareithiau heddiw’n gwbl groes i’w gilydd.

Newid yn y drefn bleidleisio yw’r peth ola’ y mae gwledydd Prydain ei angen ar hyn o bryd, meddai’r Prif Weinidog, David Cameron.

Fe fyddai AV – lle mae ail a thrydydd dewis pleidleiswyr hefyd yn cyfri – yn arwain at ragor o ganlyniadau amhendant mewn etholiadau a rhagor o fargeinio rhwng pleidiau, meddai.

Fe fydd yn dweud wrth gynulleidfa yn Llundain y byddai Llafur a Gordon Brown mewn grym o hyd o dan y drefn AV, neu’r Bleidlais Amgen.

Clegg yn Leeds

Yn Leeds, fe fydd y Dirprwy Brif Weinidog ac Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, yn mynnu bod y drefn fel y mae’n diflasu pleidleiswyr ac yn creu gwleidyddion diog sy’n poeni am eu cefnogwyr eu hunain a neb arall.

Mae newid y drefn bleidleisio’n cael ei ystyried yn gam hanfodol o ran cynnal cefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol i Lywodraeth y Glymblaid.

Pe baen nhw’n colli’r bleidlais – a David Cameron yn cael y bai am hynny – mae rhai sylwebwyr yn credu y gallai chwalu’r Llywodraeth.

Dyfyniadau

“Mae’n debyg iawn y bydd yna adeg pan gawn ni lywodraeth ail-ddewis. Pe bai’r etholiad diwetha’ o dan AV, fe fyddai siawns, yn awr, fod Gordon Brown yn Brif Weinidog o hyd.” – David Cameron wrth wrthwynebu AV.

“Mae’n golygu bod y rhan fwya’ o ASau’n cael eu hethol heb gefnogaeth y rhan fwya’ o bobol y maen nhw i fod i’w cynrychioli. Mae’n golygu nad yw miliynau o bleidleisiau’n gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl . Mae’n golygu bod miliynau o leisiau’n mynd heb eu clywed.” – Nick Clegg wrth wrthwynebu’r drefn bresennol.