Barack Obama
Fe fydd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, yn ymweld â Gwledydd Prydain ym mis Mai ar ôl derbyn gwahoddiad gan y Frenhines.

Cyhoeddodd Palas Buckingham heddiw y bydd Barack Obama a’i wraig Michelle yn ymweld am dri diwrnod ar 24-26 Mai, ychydig ddyddiau cyn cyfarfod y G8 yn Ffrainc.

Fe fydd yr Arlywydd a’i wraig yn aros ym Mhalas Buckingham, yn cael croeso seremonïol llawn, ac fe fydd gwledd yn cael ei gynnal er clod iddo.

“Rydyn ni’n hapus iawn bod yr ymweliad yma yn digwydd. Mae o’n arwydd o berthynas cryf a pharhaus rhwng y ddwy wlad,” meddai Stryd Downing.

Dyma fydd yr ymweliad arbennig cyntaf o’i fath ers i George Bush ddod i Wledydd Prydain ym mis Tachwedd 2003.

Mae Barack Obama wedi bod yn Llundain unwaith o’r blaen ers iddo gael ei urddo’n Arlywydd, ar gyfer cyfarfod y G20 yn 2009.

Mae disgwyl i Barack Obama ddod a dirprwyaeth gyda fo a chynnal trafodaethau â David Cameron ar ystod eang o bynciau.

Daw’r ymweliad yn rhy hwyr i briodas y Tywysog William a Kate Middleton ar 29 Ebrill.