David Cameron
Mae’r Prif Weinidog, David Cameron, wedi dweud y bydd mesur newydd yn sicrhau’r newid mwyaf “uchelgeisiol, pellgyrhaeddol a sylfaenol” i’r system les ers trigain mlynedd

Y prif newid fydd creu un budd-dal cyffredinol, yn hytrach na’r amrywiaeth o daliadau sydd ar gael ar hyn o bryd.

Y nod yw annog pobol sydd wedi bod yn ddi-waith ers blynyddoedd yn ôl i’r gweithle a sicrhau bod gwaith yn talu ei ffordd, meddai’r Prif Weinidog.

Ond mae’r llywodraeth wedi cefnu ar gynllun dadleuol gyhoeddwyd yn y gyllideb argyfwng y llynedd i dorri budd-daliadau tai pobol sydd wedi bod ar y dôl ers mwy nag 12 mis.

Dywedodd David Cameron y bydd y newidiadau yn torri £5.5 biliwn o gost y system les dros y pedair blynedd nesaf.

Bydd y diwygiadau hefyd yn torri budd-daliadau plant i bobol sy’n ennill dros £42,000.

Mynnodd nad torri nôl oedd unig bwrpas y mesur. “Y nod yw newid ein diwylliant ni,” meddai.

“Bydd gwaith yn talu bob tro,” meddai David Cameron wrth lansio’r mesur gyda’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Iain Duncan Smith.

“Bydd gwaith yn gwneud synnwyr ariannol o’r diwedd, yn enwedig i’r bobol dlotaf mewn cymdeithas.

“Ac rydyn ni’n mynd i roi rhagor o gyfle i bobol ddi-waith ddod o hyd i waith, ac aros mewn gwaith.

“Rydyn ni hefyd yn gwneud rhywbeth nad ydi’r un llywodraeth arall wedi llwyddo i fynd i’r afael ag ef – sef lleihau cost y system les.”

Ymateb

Mae undebau wedi beirniadu’r mesur, gan ddweud bod y Llywodraeth yn cosbi’r di-waith a’r anlwcus.

“Mae diweithdra tymor hir wedi dyblu, nid oherwydd bod cynnydd yn nifer y bobol ddiog, ond o ganlyniad i doriadau’r llywodraeth,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol undeb y TUC, Brendan Barber.

“Mae torri budd-daliadau teuluoedd sydd ar gyflogau isel nawr gan honni eu bod nhw’n mynd i fod yn gyfoethocach yn 2013 ddim yn ddadl sy’n dal dŵr.

“Ni fydd eu dadleuon nhw yn argyhoeddi teuluoedd sy’n dioddef o ganlyniad i’r argyfwng economaidd gwaethaf ers bron i ganrif.”