Ynghanol y dirwasgiad, mae pobol gyfoethog iawn yng ngwledydd Prydain yn mynd yn gyfoethocach … yn llawer cyfoethocach.

Dyna ganlyniad arolwg gan  gwmni ymchwil Ledbury sy’n dangos cynnydd o rhwng 14% a 43% yng nghyfoeth miliwnyddion.

  • Yn ystod 2011, fe gododd cyfoeth pobol sydd â £1 miliwn neu fwy o 14%.
  • Fe gododd cyfoeth pobol sydd â £10 miliwn neu fwy o 28%.
  • Fe gododd cyfoeth pobol sydd â £100 miliwn neu fwy o 43%.

Yn ôl y cwmni ymchwil, mae mwy o amrywiaeth nag erioed rhwng y cyfoethog a’r cyfoethog iawn ond ychydig o bobol newydd sy’n ymuno â’r rhengoedd.

Mwy yn mynd yn gyfoethog iawn

Yn ystod blynyddoedd cynta’r dirwasgiad, roedd pobol gyfoethog wedi colli tir ond mae hynny bellach wedi ei drawsnewid yn llwyr.

“Yn ddiweddar, r’yn ni wedi gweld adferiad yng nghyfoeth rhai sydd eisoes yn gyfoethog, gyda’r rhai cyfoethoca’n tyfu’n gynt o ran niferoedd a chyfanswm eu cyfoeth,” meddai James Lawson o’r cwmni ymchwil.

Maen nhw’n amcangyfri’ bod mwy na 650,000 o filiwnyddion yng nglwedydd Prydain, gyda 37,000 yn berchen ar fwy na £10 miliwn a 2,100 yn berchen ar fwy na £100 miliwn.