Mae’r TUC yn dweud mai dyma’r cyfnod anodda’ i bobol ifanc sy’n chwilio am waith ers bron 20 mlynedd.

Wrth baratoi ar gyfer y ffigurau diweithdra diweddara’, mae corff yr undebau’n dweud bod bron hanner miliwn o bobol ifanc gwledydd Prydain wedi bod heb waith ers mwy na chwe mis.

Ac, yn ôl arolwg gan Undeb y Myfyrwyr, mae tri chwarter y bobol ifanc sy’n mynd i brifysgol eleni yn poeni na fydd gwaith ar eu cyfer ar y diwedd.

Er fod diweithdra trwy wledydd Prydain wedi bod yn syrthio ychydig, mae diweithdra pobol ifanc wedi parhau’n uchel – tuag 20% yn uwch nag yr oedd yn 1992.

‘Colli cenhedlaeth’

“Mae’n fater o bryder arbennig bod diweithdra tymor hir i bobol ifanc yn dal i godi,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol y TUC, Brendan Barber.

“Os bydd hyn yn parhau, fe allen ni golli cenhedlaeth o bobol ifanc dalentog sydd â chymwysterau uchel gan eu tynghedu i yrfaoedd diffaith, dyled a thangyflawni.”

Daw’r rhybudd ddiwrnod cyn i ddisgyblion Lefel A Cymru dderbyn eu canlyniadau yfory.

Mewn adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, dywed y TUC fod y rhagolygon ar gyfer pobol ifanc wedi dirywio ers i’r dirwasgiad ddechrau yn 2008.