Mae plant sydd yn ddifrifol wael yn dioddef yn ddiangen oherwydd bod eu rhieni crefyddol yn gwrthod gadael iddyn nhw farw, yn ôl adroddiad gan ddoctoriaid plant.

Mae’r rhieni sy’n credu mai dim ond Duw sydd â’r gallu i gymryd bywyd yn “arteithio” eu plant â thriniaeth sy’n gwbl ofer, medden nhw.

Mewn erthygl a gyhoeddwyd yn y Journal of Medical Ethics mae’r doctoriaid yn rhybuddio na ddylad caniatáu i rieni sy’n credu mewn adferiad “gwyrthiol” barhau i fynnu ar driniaeth i’w plant.

Dywedodd yr doctoriaid o Ysbyty Great Ormond Street y dylid newid y gyfraith fel nad yw rheini yn gallu wfftio penderfyniadau doctoriaid ar seiliau crefyddol.

Mae’r erthygl wedi ei ysgrifennu gan Dr Joe Brierley a Dr Andy Petros, yn ogystal â’r Parch Jim Linthicum o’r ysbyty.

Roedd yr erthygl yn dilyn adolygiad o 203 achos yn yr uned lle’r oedd doctoriaid wedi cynghori rheini y dylid troi peiriannau cynnal bywyd i ffwrdd.

Yn 186 o’r 203 achos, roedd y rhieni wedi cytuno i atal y driniaeth a oedd yn achosi poen i’r plentyn ond nad oedd o unrhyw fudd.

Ond mewn 17 achos mynnodd y rhieni barhau â’r driniaeth, er bod y doctoriaid wedi eu cynghori mai bach iawn oedd y siawns y byddai yn llwyddiannus.

Mewn 11 o’r achosion hyn roedd y rheini yn gwrthwynebu ar sail grefyddol.

Dywedodd y doctoriaid bod nifer o’r rheini oedd yn mynnu parhau â’r driniaeth yn “gobeithio am wyrth”.

“Er ei fod yn hanfodol cefnogi teuluoedd mewn amseroedd anodd fel hyn, rydyn ni’n pryderu yn gynyddol bod credoau crefyddol yn gallu arwain at orfodi triniaeth feichus ar blant gan rieni sy’n gobeithio am ymyrraeth wyrthiol,” meddai awduron yr erthygl.

“Mae rhai wedi dadlau bod treulio oes yn gaeth i beiriant anadlu, o dan ofal parhaol, heb unrhyw urddas na phreifatrwydd, yn greulon.”