Gracie May
Mae perchenogion ceffyl wedi galw am byjamas digon mawr i ffitio’r anifail.
Mae Gracie May yn dioddef o gosi ofnadwy am fod ganddi alergedd i frathiadau gwybed.
Dywedodd ei pherchenogion yn HorseWorld, Whitchurch, ger Bryste, bod angen arnyn nhw’r defnydd a pheiriannydd i wnïo’r pyjamas at ei gilydd.
Dywedodd Karen Hardwick o’r ganolfan bod cyflwr Gracie May wedi gwaethygu’n raddol dros y misoedd diwethaf.
“Mae wedi bod yn frwydr ei hatal hi rhag cosi’n ofnadwy,” meddai.
“Mae ganddi ryg ar hyn o bryd sy’n ei gwarchod hi pan mae hi allan yn y caeau, ond dyw e ddim yn ffitio’n iawn ac mae’n rhwbio yn erbyn ei chroen.
“Beth sydd ei angen arni yw rywbeth i’w wisgo pan mae hi yn ei stabl – byddai pâr o byjamas yn gwneud y tro.
“Mae ei maint hi’n broblem hefyd. Mae’n saith troedfedd o’i chorun i’w charn.
“Rydyn ni wedi chwilio ymhobman ond ddim yn gallu dod o hyd i unrhyw byjamas ar gyfer y ceffyl yma.”