Mae morfil wedi marw ar draeth yng Nghernyw er gwaethaf ymdrechion achubwyr.

Cafodd achubwyr eu galw i Fae Carlyon ger Austol (St Austell) tua 5pm ddoe ar ôl i gerddwyr weld y morfil 65 troedfedd ar y traeth.

Ond dywedodd milfeddygon o’r Achubwyr Bywyd Morol Prydeinig nad oedd unrhyw obaith o arnofio’r anifail oedd yn “denau iawn”.

Roedden nhw wedi penderfynu lladd yr anifail er mwyn ei atal rhag dioddef ymhellach, ond fe fu farw’r morfil felly ni oedd angen gwneud hynny.

“Roedd yn hynod o danfaethedig ac yn anadlu’n gyflym, sy’n awgrymu ei fod yn sâl ac yn dioddef,” meddai Faye Archell o’r achubwyr.

“Ni fyddai yn iawn i ni wthio anifail sâl yn ôl i’r môr. Mae’n rhwystredig ond does dim allen ni ei wneud am y peth.”

Dywedodd yr achubwyr ei fod yn drosedd i aelodau o’r cyhoedd ddwyn unrhyw ran o’r morfil. Roedden nhw’n gobeithio cynnal archwiliad post-mortem ar gorff y morfil, medden nhw.