Mae ymgeiswyr annibynnol yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu wedi dweud eu bod nhw o dan anfantais o’u cymharu â’r ymgeiswyr hynny sy’n cael eu cefnogi gan bleidiau gwleidyddol.

Maen nhw wedi gofyn i’r Llywodraeth sicrhau chwarae teg iddyn nhw yn yr etholiadau.

Bydd yr enillwyr yn disodli awdurdodau’r heddlu.

Bydd gwybodaeth am yr holl ymgeiswyr yn cael ei gyhoeddi ar y we, ac fe fydd ar gael yn ysgrifenedig drwy’r post ar gais unigolion.

Mae cadeirydd awdurdod heddlu Caint yn cyflwyno deiseb i’r llywodraeth heddiw, ar ôl dadlau bod y system bresennol yn “annemocrataidd”.

Dywedodd Ann Barnes: “Mae yna berygl go iawn y bydd ein heddlu, gyda’i hanes hir a balch, o dan reolaeth gweithredwr gwleidyddol.”

Bydd yr etholiadau cyntaf yn cael eu cynnal ar 15 Tachwedd, a bydd gan y comisiynwyr newydd reolaeth dros gyllid a phenodi a diswyddo Uwch Gwnstabliaid.

“Bydd yr etholiad ar gyfer y Comisiynwyr Heddlu a Thorcyfraith rhoi gwir gyfle i’r cyhoedd ddewis pwy maen nhw am ei gael yn cynrychioli eu safbwyntiau am dorcyfraith,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref.

“Bydd pob tŷ yn derbyn gwybodaeth am yr etholiadau ym mis Tachwedd ar gyfer Comisiynwyr Heddlu a Thorcyfraith, gan y Comisiwn Etholiadol.

“Yn ogystal, bydd gwybodaeth am bob ymgeisydd yn cael ei chyhoeddi ar-lein ac, i unrhyw un sy’n dymuno, fe fydd ar gael yn ysgrifenedig.”

Rhybuddiodd y Comisiwn Etholiadol ym mis Mawrth y byddai hyd at saith miliwn o bobl sydd heb fynediad i’r we dan anfantais wrth bleidleisio.

Mae gweinidog yr heddlu, Nick Herbert wedi dweud y byddai llythyru yn rhy gostus ac y dylai’r ymgeiswyr ddefnyddio gwefannau cymdeithasol a chyfryngau lleol i ymgyrchu.