Mae teithwyr trenau yn disgwyl clywed heddiw faint fydd y cynnydd ym mhris tocynnau tymor ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Mae chwyddiant yn gymharol isel ar hyn o bryd, ar 2.4%, ond gall prisiau rhai tocynnau rheilffyrdd godi 11% y flwyddyn nesaf.

Mae prisiau tocynnau tymor yn cael eu gosod drwy ychwanegu 3% i fynegai’r prisiau manwerthu, sy’n golygu cynnydd o 6%, a gall rhai tocynnau godi gan 5% ychwanegol tra bod toriadau ym mhrisiau tocynnau eraill.

Cafodd y fformiwla ar gyfer gosod prisiau ei newid ar ôl i Lywodraeth Prydain ddweud y dylai teithwyr gyfrannu mwy at docynnau rheilffyrdd yn hytrach na threthdalwyr yn gyffredinol. Cafodd y cwmnïau rheilffyrdd yr hawl i ychwanegu 3% i fynegai’r prisiau manwerthu yn 2012, yn hytrach nag 1%.

Mae mudiad Ymgyrch er Trafnidiaeth Well wedi dweud y bydd tocynnau’n codi tair gwaith yn gyflymach na chyflogau os yw’r Llywodraeth yn cadw at ei pholisi.

“Mae’r Llywodraeth yn gwybod na allan nhw barhau i daro teithwyr,” meddai Stephen Joseph o’r mudiad.