Gordon Brown
Mae llwyddiant Tîm GB yn enghraifft dda o blaid cadw’r Alban o fewn y Deyrnas Unedig, meddai’r cyn-Brif Weinidog Gordon Brown.

Mewn gŵyl lyfrau yng Nghaeredin neithiwr dywedodd Gordon Brown fod Prydain ar ei chryfaf pan fo’r wlad yn rhannu adnoddau.

“Mae’r Gemau Olympaidd wedi ei gwneud hi’n eglur bod dod ynghyd a rhannu adnoddau mewn camp megis seiclo yn arwain at fwy o lwyddiant na phe bai’r arian yn cael ei ddidoli, a degfed rhan yn mynd i’r Alban, degfed i Swydd Efrog ac yn y blaen,” meddai.

Mae’r seiclwr Chris Hoy wedi dweud ei fod yn falch o fod yn Albanwr ac yn Brydeiniwr, a dywedodd nad yw’r ddwy hunaniaeth ar wahân i’w gilydd.

Dywedodd Maer Llundain Boris Johnson mai un canlyniad hapus i’r Gemau yw bod “dyhead Alex Salmond i ddatgymalu Prydain wedi cael ergyd”.

Rhybuddiodd Gordon Brown fod devo-max, sef mwy o ddatganoli ariannol i’r Alban ond dim annibyniaeth lwyr, yn mynd i arwain at fwy o drethi i bobol yr Alban er mwyn gwneud i fyny am y diffyg adnoddau sy’n cael ei rannu gyda gweddill Prydain.

Dywedodd llefarydd ar ran Gweinidog Cyllid yr Alban, John Swinney, fod sylwadau Gordon Brown yn anghywir gan bod yr Alban yn fwy llewyrchus na gweddill y Deyrnas Gyfunol.

“Yr hyn mae angen i Gordon Brown a’r pleidiau gwrth-annibyniaeth ei ateb yw pam fod yn well ganddyn nhw gadw’r pwerau dros swyddi a’r economi gyda llywodraeth Doriaidd yn San Steffan – sydd wedi defnyddio’r pwerau i greu dirwasgiad dwfn,” meddai.