Mae un o feirniaid yr X Factor, Louis Walsh,wedi lladd ar y canwr o Gymru, Tom Jones, gan ddweud bod hwnnw ‘ar goll’ ar raglen The Voice.

Dywedodd Louis Walsh fod ymgeisydd y BBC i geisio dwyn coron yr X Factor, The Voice, wedi ei ddiflasu.

“Fe aeth pethau lawr allt ar ôl y rownd gyntaf. Nid y llais yw’r peth pwysicaf bob tro, ond hefyd bod y canwr yn hoffus a bod ganddo bersonoliaeth,” meddai.

“Does gen i ddim syniad beth oedd Tom Jones yn ei wneud ar y rhaglen – roedd ar goll yn llwyr.”

Fe fydd Louis Walsh, sy’n 60, yn dychwelyd ar gyfer nawfed gyfres y sioe ar ITV ddydd Sadwrn, â’r beirniaid eraill Tulisa Contostavlos, Gary Barlow a Nicole Scherzinger.

Ond awgrymodd Louis Walsh y bydd yn gadael y sioe ar ôl 10 mlynedd, am nad yw eisiau troi i mewn i Syr Bruce Forsyth.

Cyfaddefodd hefyd nad oedd y sioe gystal heb ddylanwad y cynhyrchydd Simon Cowell ar banel y beirniad.

“Rydw i’n gobeithio cyrraedd 10 mlynedd ar y sioe. Dydw i ddim am fod fel Brucie ar Strictly. Fe fydda i’n gwybod pan mae’n amser rhoi’r gorau iddi,” meddai Louis Walsh.

“Mae’r rhaglen wedi dioddef yn sgil absenoldeb Simon – mae fel y Rolling Stones heb Mick Jagger.

“Ond rydyn ni’n gwneud ein gorau, er fy mod i’n gweld ei eisiau.”