Mae dyn wedi ei gyhuddo o dreisio dynes bron i 20 mlynedd yn ôl.

Fe fydd Daniel Borgers, 41, o Napier Crescent, Scarborough, yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Luton y bore ma wedi ei gyhuddo o dreisio dan Ddeddf Troseddau Rhywiol 1956.

Mae Daniel Borgers dan amheuaeth o dreisio dynes oedd yn cerdded adref o’r capel yn Stotfold, Bedfordshire, ym mis Hydref 1992.

Arestiwyd Borgers, oedd yn arfer byw yn y dref, ddydd Sul gan Heddlu Gogledd Swydd Efrog.

Mae tîm datrys hen droseddau’r heddlu wedi bod yn gweithio ar yr achos ers sawl blwyddyn bellach.