Mae cwpwl o Suffolk wedi ennill £148,656,000 ar y Loteri Genedlaethol, cyhoeddwyd heddiw.
Fe fydd EuroMillions yn datgelu pwy sydd wedi ennill yr arian yn ddiweddarach.
Dyma’r ail swm mwyaf sydd wedi ei ennill gan unrhyw un yn y Deyrnas Unedig erioed.
Fis Gorffennaf diwethaf fe gyhoeddwyd bod Colin a Chris Weir, o Largs yng Ngogledd Swydd Ayr yn yr Alban, wedi ennill £161 miliwn.
Dywedodd EuroMillions heddiw bod y cwpwl sydd wedi ennill yn dod o dref Haverhill yn Suffolk. Nhw oedd yr unig rai oedd wedi cael y rhifau’n gywir.
Mae’r Loteri Genedlaethol eisoes wedi creu dros 2,900 o filiwnyddion.