Tia Sharp
Cafodd dyn 37 oed ei gadw yn y ddalfa gan ynadon yn Llundain ar ôl ymddangos ger eu bron ar  gyhuddiad o ladd Tia Sharp, merch 12 oed aeth ar goll ger ei chartref yn Croydon ar 3 Awst.

Fe wnaeth Stuart Hazell, cariad Christine Sharp, 46 oed, sef nain Tia,  ymddangos trwy gyswllt fideo yn llys Camberwell Green, de Llundain o swyddfa’r heddlu yn Sutton.

Wnaeth Hazell ddim ymateb i’r cyhuddiad, dim ond cadanrhau bod ei enw, dyddiad ei eni a’i gyfeiriad yn gywir. Fe fydd yn ymddangos gerbron yr Old Bailey dydd Mercher cyn ymddangos yno unwaith eto am ragwrandawiad ar 19 Tachwedd.

Fe gafodd Hazell ei arestio dydd Gwener yn fuan wedi i weddillion Tia cael eu canfod wedi eu cuddio yng nghartref ei nain.

Mae Christine Sharp wedi ei rhyddhau ar fechniaeth ar ôl idd gael ei harestio ar amheuaeth o lofruddio ei wyres. Mae dyn 39 oed hefyd ar fechniaeth ar ôl iddo yntau gael ei arestio ar amheuaeth o roi cymorth i droseddwr.

Mae heddlu Llundain wedi ymddiheuro i fam Tia, Natalie, am fod cyhyd yn dod o hyd i gorff ei merch er eu bod wedi chwilio cartref ei nain.