Daeth gemau olympaidd Llundain 2012 i ben gyda sioe llawn lliw a llun yn dathlu 50 mlynedd o gerddoriaeth gyfoes.

Roedd yna amrywiaeth o gerddorion yn cymryd rhan yn y seremoni ynghanol y stadiwm Olympaidd o’r Spice Girls i gôr meibion ac Eric Idle, aelod o griw Monty Python,  awnaeth arwain y dorf o 80,000 yn y stadiwm i ganu “Always look on the bright side of life”.

Dywedodd Llywydd y Pwyllgor Rhyngwladol Olympaidd, Jacques Rogge, bod y gemau wedi bod yn rhai hapus a gwych a diolchodd yr Arglwydd Coe i’r holl wirfoddolwyr am eu gwaith.

Cafodd y faner Olympaidd wedyn ei throsglwyddo i Brasil ble bydd y gemau nesaf yn cael eu cynnal yn Rio de Janeiro yn 2016. Dyma fydd y tro cyntaf i’r gemau gael eu cynnal erioed yn Ne America.

Yr athletwyr yn gadael

Bydd yr athletwyr i gyd yn gadael Llundain yn ystod y tridiau nesaf ac mae rheolwyr maes awyr Heathrow yn bendant eu bod yn barod am yr holl deithwyr.

Mae terminal arbennig wedi cael ei greu i edrych fel parc ynghanol Llundain ar gyfer y 10,000 fydd yn troi am adref o heddiw ymlaen.

Mae’r athletwyr wedi cael gwahoddiad i recordio eu hoff atgofion o’r gemau a bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi mewn llyfrau a fydd wedyn yn cael eu cyflwyno i’r 1,300 o wirfoddolwyr a fu’n rhoi help llaw efo’r gwaith o groesawu a ffarwelio â’r athletwyr yn Heathrow.

Cyfraniad G4S

Yn y cyfamser mae cwmni diogelwch G4S am gyfrannu £2.5 miliwn i grofneydd llês a chwaraeon y lluoedd arfog i gydnabod bod aelodau o’r lluoedd wedi gorfod camu i’r adwy dros gyfnod y gemau ar ôl i G4S fethu recriwtio digon o weithwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni y bydd hyn yn ychwanegol at yr ad-daliad am waith y 18,000 o filwyr -n bydd hwnnw’n ccael ei wneud yn uniongyrchol i’r lluoedd ei hunain.