Mae’r Prif Weinidog, David Cameron, wedi dweud y bydd y Gemau Olympaidd yn “hwb anferth” i hunan hyder y Deyrnas Unedig.

Fe fydd hynny yn ei dro yn fodd o lusgo’r wlad allan o’r trafferthion economaidd y mae hi ynddi, meddai.

Ond wrth i’r jambori ddod i ben, roedd meddyliau pleidleiswyr yn siŵr o ganolbwyntio drachefn ar “y sefyllfa ariannol anodd iawn”.

Roedd ystadegau a gyhoeddwyd toc cyn dechrau’r gemau yn awgrymu bod Cynnyrch Domestig Gros y wlad wedi crebachu 0.7% rhwng mis Ebrill a Mehefin.

Ac wrth i Dîm GB ennill y medalau aur, roedd newyddion drwg pellach wrth iddi ddod i’r amlwg bod y diffyg masnachol wedi lledu i’r mwyaf erioed.

Ond mynnodd David Cameron bod llwyddiant y gemau yn brawf y gallai’r Deyrnas Unedig “newid pethau”.

“Mae wedi bod yn hwb anferth i hyder y wlad, ac wedi dangos ein bod ni’n gallu cystadlu mewn byd hynod o gystadleuol,” meddai.

“Rydyn ni’n wynebu sefyllfa economaidd anodd a dydw i ddim am geisio bychanu hynny o gwbl.

“Ond mae’r Gemau yma wedi dangos bod gweithio’n galed, cynllunio, a brwdfrydedd yn gallu newid pethau.

“Rydyn ni’n teimlo nawr nad dim ond hanes gwych sydd gennym ni, ond dyfodol gwych hefyd.”