Mae nifer y bobl sydd mewn swyddi parhaol wedi gostwng am yr ail fis yn olynol, gan awgrymu bod cyflogwyr yn atal gwneud penderfyniadau ynglŷn â recriwtio tan ar ôl y Gemau Olympaidd, yn ôl adroddiad newydd.

Mae’r adroddiad gan KPMG a’r Conffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth (REC) yn dangos bod ’na “ansicrwydd” ymhlith cyflogwyr o hyd.

Roedd ’na ostyngiad yn nifer y rhai gafodd eu cyflogi i swyddi parhaol a tymor-byr yn ystod mis Gorffennaf tra bod ymgynghorwyr recriwtio yn dweud bod ’na gynnydd yn nifer y staff sydd ar gael ar gyfer swyddi.