Michael Gove
Mae’r Ysgrifennydd Addysg  Michael Gove wedi rhoi sêl bendith i werthu mwy na 20 o gaeau chwarae mewn ysgolion ers i’r Llywodraeth Glymblaid ddod i rym.

Mae 21 o 22 o geisiadau yn y ddwy flynedd ddiwethaf wedi cael eu cymeradwyo, ac mae’r llall yn dal o dan ystyriaeth. Daeth y ffigurau i law yn dilyn cais yn unol â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Roedd y Llywodraeth Lafur flaenorol wedi gwerthu ychydig dros 200 o gaeau dros gyfnod o 13 o flynyddoedd mewn grym.

Yn y gorffennol, bu’r Glymblaid yn awyddus i ddiogelu caeau chwarae mewn ysgolion, ond mae’r ffigurau diweddaraf yn taflu cysgod dros ddarpariaeth chwaraeon mewn ysgolion ledled Prydain.

Daw’r newyddion ddiwrnod yn unig ar ôl i’r Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt gyfaddef fod darpariaeth chwaraeon mewn ysgolion yn anwastad.

‘Angen diwygio radical’

Mae Cymdeithas Olympaidd Prydain, y BOA, wedi galw ar y Llywodraeth i gynyddu’r arian sydd ar gael ar gyfer cyfleoedd chwaraeon mewn ysgolion.

Tra bod rhai o’r caeau wedi cael eu gwerthu i wneud lle i gyfleusterau chwaraeon newydd sbon, mae eraill wedi diflannu wrth i ysgolion gau.

Roedd y Glymblaid eisoes wedi gwneud addewid i amddiffyn caeau chwarae, fel rhan o gynllun i greu cyfleusterau o’r radd flaenaf i ysgolion ledled Prydain.

Mae Adran Addysg y Llywodraeth wedi cadarnhau na fydd caeau’n cael eu gwerthu oni bai bod modd parhau i ddarparu cyfleusterau chwaraeon yn yr ysgol.

Mae’r Arglwydd Moynihan, sy’n cefnogi datblygu cyfleusterau chwaraeon mewn ysgolion, wedi galw am ragor o arian i ddatblygu cyfleusterau.

Dywedodd fod angen “diwygio radical” ac “ymrwymiad llawn i sicrhau dilyniant o ran cyfranogiad mewn chwaraeon y mae’n rhaid iddo ganolbwyntio ar ysgolion a chlybiau”.

Yn gynharach, roedd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt wedi dweud bod darpariaeth chwaraeon yn “un o lwyddiannau mawr” y Llywodraeth bresennol.

Dywedodd wrth y BBC: “Rwy’n credu fod darpariaeth chwaraeon mewn ysgolion ar hyn o bryd yn anwastad mewn mannau, a bod angen i ni wneud yr hyn fedrwn ni i sicrhau bod yr enghreifftiau gorau posib yn cael eu lledaenu drwy’r wlad i gyd, a bydd hyn wir yn ganolbwynt dros y misoedd nesaf ac yn un o’r pethau rydyn ni wir am fynd gyda ni allan o’r Gemau [Olympaidd] hyn.”