Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enwau dau o blant fu farw ar ôl i gar daro yn erbyn cerddwyr ddoe.

Bu farw  Oliwier Baczyk, oedd yn un oed, a  Zofia Tabaka, 2 oed, y ddau o Gaerlŷr, neithiwr.

Roedd y plant yn teithio mewn coetsh pan ddigwyddodd y ddamwain.

Roedd dau o gerddwyr oedd gyda’r plant, dynion 29 a 28 oed, wedi cael mân anafiadau.

Cafodd dynes 40 oed a dyn 61 oed eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad fore ddoe, ond maen nhw bellach wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau’r heddlu’n parhau.

Dywedodd llefarydd ar ran heddlu Sir Caerlŷr bod car BMW a Mini Cooper coch yn gysylltiedig â’r ddamwain ond maen nhw’n dal i geisio darganfod beth yn union ddigwyddodd ac yn apelio am wybodaeth.