Mae plismon a newyddiadurwr wedi cael eu harestio gan yr heddlu  sy’n ymchwilio i daliadau llwgr i swyddogion cyhoeddus, meddai Scotland Yard.

Cafodd y plismon 29 oed, sy’n gwasanaethu gyda Heddlu Sussex, ei arestio yn ei gartref yn y sir bore ma, a chafodd y newyddiadurwr 37 oed ei arestio yn ei gartref yng ngogledd Llundain.

Mae News Corp wedi cadarnhau fod y newyddiadurwr yn gweithio i bapur y Sun.

Mae 43 o bobl bellach wedi cael eu harestio fel rhan o Ymchwiliad Elveden yr Heddlu Metropolitan yn dilyn honiadau bod taliadau llwgr wedi cael eu gwneud i swyddogion yr heddlu a swyddogion cyhoeddus.

Mae Ymchwiliad Elveden yn cael ei arolygu gan Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu ac yn cael ei gynnal ar y cyd ag Ymchwiliad Weeting, sef ymchwiliad y Met i achosion o hacio ffonau.

Mae’r ddau yn cael eu holi mewn gorsafoedd yr heddlu yn Llundain.