Nick Clegg
Mae’r dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg wedi cyhoeddi ei fod yn rhoi’r gorau i’r mesur i ddiwygio Tŷ’r Arglwyddi ar ôl i David Cameron ddweud wrtho nad oedd digon o Aelodau Seneddol Ceidwadol yn barod i gefnogi’r newidiadau.

O ganlyniad mae Nick Clegg wedi dweud na fydd Aelodau Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi cynlluniau’r Ceidwadwyr i newid ffiniau etholaethol.

Dywedodd arweinydd y Dems Rhydd bod y Ceidwadwyr wedi “torri’r cytundeb” rhwng partneriaid y Llywodraeth Glymblaid.

Dywedodd Nick Clegg: “Nid yw’r Blaid Geidwadol yn cadw at ei hymrwymiad i ddiwygio Tŷ’r Arglwyddi ac, o ganlyniad, mae rhan o’r cytundeb wedi cael ei dorri,” meddai mewn cynhadledd newyddion yn Llundain.

“Ni allaf ganiatáu sefyllfa lle mae ASau’r Blaid Geidwadol yn dewis a dethol pa rannau o’r cytundeb maen nhw’n ei hoffi, tra bod ASau’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cadw at y cytundeb yn ei gyfanrwydd.

“Rydw i wedi dweud wrth y Prif Weinidog pan fydd y Senedd yn pleidleisio am  newid ffiniau etholaethol ar gyfer etholiad 2015 y byddaf yn cynghori fy mhlaid i wrthwynebu’r cynlluniau.”

Ond mae Nick Clegg yn mynnu y bydd yn parhau yn rhan o’r Llywodraeth Glymblaid.

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Gan ei bod hi’n debygol iawn y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi’r gorau i’w chynlluniau i dorri nifer yr Aelodau Seneddol yng Nghymru, fe fydd y Prif Weinidog yn ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ofyn beth yw goblygiadau hyn i’w Phapur Gwyrdd.”