Louise Mensch
Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol Louise Mensch wedi cyhoeddi ei bod yn rhoi’r gorau i’w swydd er mwyn symud yn ôl i’r Unol Daleithiau gyda’i theulu.

Cafodd Louise Mensch ei hethol yn 2010 a daeth i amlygrwydd fel aelod o’r pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon oedd yn gyfrifol am yr ymchwiliad i’r helynt hacio ffonau.

Dywedodd yr AS, sy’n fam i dri o blant, ei bod wedi ei thristau ond bod y penderfyniad i roi’r  gorau  i’w swydd yn “angenrheidiol”.

Mae ei gŵr Peter Mensch yn rheolwr y grŵp roc Metallica ac yn byw yn Efrog Newydd, gan olygu ei bod wedi gorfod rhannu ei hamser rhwng y DU a’r Unol Daleithiau.

Fe fydd ei phenderfyniad yn golygu y bydd isetholiad yn ei hetholaeth yn Corby, Sir Northampton ac mae’r Ceidwadwyr yn wynebu her gan y Blaid Lafur.

Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron bod Louise Mensch wedi bod yn AS “ysbrydoledig” a’i bod wedi gwneud “cyfraniad sylweddol” yn ystod ei chyfnod byr yn Nhŷ’r Cyffredin.