Yr Uchel Lys yn Llundain
Mae’r Uchel Lys wedi dyfarnu heddiw bod cynllun dadleuol y Llywodraeth i annog pobl yn ôl i fyd gwaith, yn gyfreithlon.
Roedd barnwr wedi gwrthod honiad Cait Reilly, sy’n ddi-waith, bod cynllun yn ei gorfodi i weithio am ddim yn siop Poundland yn torri rheolau hawliau dynol yn gwahardd caethwasiaeth.
Roedd Cait Reilly, 23, o Birmingham, a’r gyrrwr loriau di-waith Jamieson Wilson, 40, o Nottingham yn honni bod y cynlluniau gwaith yn mynd yn groes i’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol sy’n gwahardd llafur gorfodol a chaethwasiaeth.
Ond fe benderfynodd y barnwr Mr Ustus Foskett nad oedd y cynllun yn mynd yn groes i erthygl 4 y Confensiwn Ewropeaidd .
Mae’r dyfarniad yn rhyddhad i’r Llywodraeth. Petai wedi colli’r her gyfreithiol, fe fyddai’n debygol bod ei chynlluniau gwaith yn annilys.