David Cameron
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi galw ar y Cenhedloedd Unedig i gynyddu’r pwysau ar yr Arlywydd Bashar Assad yn Syria, ar ôl i Kofi Annan roi’r gorau i’w rôl fel llysgennad arbennig y wlad.

Dywedodd David Cameron bod ymddiswyddiad Kofi Annan yn dangos nad oedd ei gynllun heddwch wedi gweithio.

Wrth gyhoeddi ei ymddiswyddiad roedd Kofi Annan yn feirniadol iawn o fethiant y Cyngor Diogelwch i ddod i gytundeb ynglŷn â’r ffordd orau o ddod â’r trais i ben.

Ac ychydig iawn o gynnydd fu yn ystod trafodaethau yn Downing Street rhwng David Cameron ac Arlywydd Rwsia Vladimir Putin heddiw.

Dywedodd y ddau y byddai trafodaethau rhwng Mosgo a Llundain yn parhau, ac er i Cameron bwysleisio’r gwahaniaeth barn rhwng Prydain a Rwsia ynglŷn â Syria, dywedodd bod y ddwy wlad am weld diwedd i’r trais yno.