Mae dyn 18 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio llanc yn ei arddegau gafodd ei drywanu  yn ystod parti mewn clwb cymdeithasol.

Cafodd Ben Morutare, 16, o Walsall, yng ngorllewin y Midlands ei drywanu yn ei goes yn ystod digwyddiad tu allan i’r clwb yn Heol Oldbury, Smethwick yn ystod oriau mân fore dydd Sadwrn.

Cafodd Ben Morutare ei gludo i Ysbyty Plant Birmingham ond bu farw’n ddiweddarach.

Dywedodd Heddlu Gorllewin y Midlands bod y dyn, o Dudley, wedi cael ei arestio am 10yh ddoe.

Mae’r heddlu’n parhau i apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd y digwyddiad neu sydd â gwybodaeth.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Gary Plant: “Mae’n ymchwiliad cymhleth yn enwedig gan fod nifer fawr o bobl yn y parti ar y pryd.”