Hans ac Eva Rausing
Mae un o ddynion cyfoethocaf Prydain, Hans Rausing wedi osgoi mynd i’r carchar ar ôl cyfaddef iddo rwystro corff ei wraig Eva rhag cael ei gladdu.

Roedd Rausing – etifedd cyfoeth cwmni Tetra Pak – hefyd wedi cyfaddef i gyhuddiad o yrru dan ddylanwad cyffuriau.

Cafodd ddedfryd o 10 mis o garchar wedi ei ohirio am ddwy flynedd ar ôl i’r Barnwr Richard McGregor-Johnson ddweud wrth Rausing bod ei ymddygiad yn dangos “effeithiau dinistriol” cyffuriau.

Daethpwyd o hyd i gorff Eva Rausing wedi ei orchuddio gan fagiau plastig a phentwr o ddillad, yn eu cartref yn Llundain ar ôl i’w gŵr gael ei arestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau ar 9 Gorffennaf.

Clywodd Llys y Goron yn Isleworth, Llundain bod archwiliad post mortem yn dangos bod Eva Rausing wedi marw ar 7 Mai a bod cyffuriau yn ei gwaed, gan gynnwys cocên.

Clywodd y llys bod Rausing wedi dweud wrth yr heddlu ar ôl cael ei arestio nad oedd yn cofio llawer am y cyfnod cyn nac ar ôl marwolaeth Eva. Dywedodd hefyd nad oedd wedi achosi unrhyw niwed iddi.