Tom Daley a'i bartner Peter Waterfield
Cafodd llanc 17 oed ei arestio mewn llety yn Weymouth bore ma yn dilyn negeseuon maleisus  gafodd eu gadael ar Twitter i’r deifiwr yn nhîm GB, Tom Daley.

Mae’n debyg bod y negeseuon gan Rileyy69 yn cyfeirio at  dad Tom Daley, Rob, fu farw o gancr y llynedd ac yn awgrymu bod y deifiwr wedi siomi ei dad.

Fe fethodd Daley a’i bartner Pete Waterfield i gipio medal ddoe gan orffen yn bedwerydd yn y gystadleuaeth deifio gydamserol yn y Gemau Olympaidd.

Cyn y Gemau, fe ddywedodd Tom Daley, 18, bod ei dad wedi bod yn “ysbrydoliaeth” iddo a byddai ennill medal yn gwireddu breuddwyd.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dorset bod dyn 17 oed wedi cael ei arestio yn ystod oriau man bore ma mewn llety yn ardal Weymouth ar amehuaeth o anfon negeseuon maleisus. Mae’n helpu’r heddlu gyda’u ymholiadau.