Adeilad y Goruchaf Lys
Fe fydd pedoffiliaid a threiswyr yng Nghymru’n cael yr hawl i apelio yn erbyn cadw eu henwau ar gofrestr y troseddwyr rhyw am weddill eu bywydau.

Mae’r Llywodraeth yn dweud eu bod yn cael eu gorfodi i newid y ddeddf ar ôl i’r Goruchaf Lys tros Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ddyfarnu mewn achos apêl.

Mae’n golygu y  bydd y troseddwyr yn cael gofyn am dynnu eu henwau oddi ar y gofrestr, gan ddadlau nad ydyn nhw bellach yn beryg i’r cyhoedd.

Y cefndir

Roedd dau droseddwr wedi mynd â’u hachos i’r Uchel Lys yn 2008, gan gynnwys un bachgen a oedd wedi ei gael yn euog o dreisio plentyn pan oedd yn 11 oed.

Gan ddibynnu ar Gonfensiwn Hawliau Dynol Ewrop, fe benderfynodd y Goruchaf Lys y llynedd nad oedd hi’n iawn rhoi cosb am oes i bobol heb unrhyw hawl i’w herio.

Ynghynt y mis yma, fe bleidleisiodd ASau yn erbyn gorchymyn arall gan lys barn – y Llys Hawliau Dynol Ewropeaidd – a ddywedodd bod rhaid rhoi hawliau pleidleisio i rai carcharorion.

Roedd yr Alban eisoes wedi newid y ddeddf yno.