Stadiwm Wembley
Mae rhai o’r dorf fu’n gwylio’r pêl-droed yn y Gemau Olympaidd wedi bod yn cwyno am giwiau “hurt” ar gyfer bwyd a diod ar ôl i beiriannau talu fethu gweithio.

Yn ystod y gêm neithiwr rhwng Prydain a’r Emiradau Arabaidd Unedig nid oedd hi’n bosib talu am fwyd a diod gyda Visa, sef yr unig gerdyn sy’n cael ei dderbyn yn safleoedd y Gemau, ac nid oedd arian parod gan nifer o bobol.

“Roedd y ciwiau’n hurt,” meddai Max Gore o Shepherd’s Bush yn Llundain. “Doedd dim arian parod gen i a do’n i ddim yn gallu talu trwy gerdyn.

“Gofynnais i i’r bobol tu ôl y bar a oedd peiriannau twll yn y wal, a dywedon nhw eu bod nhw wedi cael eu tynnu mas ar gyfer y Gemau.

“Aeth y broblem ymlaen trwy’r nos. Roedd dwy gêm ac fe fethon nhw â datrys y broblem.”

‘Visa wedi cael monopoli’

Mynegodd eraill eu rhwystredigaeth ar wefan Twitter.

“Ches i ddim argraff dda o stadiwm Wembley. Wedi rhedeg allan o fwyd, y system cerdyn Visa wedi torri, a dim gwybodaeth i’r cyhoedd,” meddai Carl McQueen.

Sylw Tom Williams oedd, “Mae’n dipyn o beth bod Visa wedi cael monopoli dim ond i’w peiriannau nhw fethu.”

Dywedodd llefarydd ar ran Visa fod gweithwyr y cwmni yn gweithio gyda’r stadiwm i geisio datrys y broblem. Dywedodd llefarydd ar ran Locog, trefnwyr y Gemau, eu bod nhw hefyd yn gweithio gyda’r stadiwm fel na fydd y broblem yn codi eto. Mae gêm arall yn Wembley nos yfory, rhwng tîm merched Prydain a Brasil.

Yn ystod y gêm neithiwr torrodd Ryan Giggs record arall – ef yw’r sgoriwr hynaf erioed mewn gêm bêl-droed Olympaidd, ac yntau’n 38 a 243 diwrnod oed.

Allweddi coll

Mae trefnwyr y Gemau wedi gwadu fod perygl i ddiogelwch ar ôl i heddweision golli allweddi ar gyfer rhannau o stadiwm Wembley yr wythnos ddiwethaf.

Yn ôl y trefnwyr mae’r cloeon wedi cael eu newid ar ôl i’r heddlu fethu â dod o hyd iddyn nhw.