Mae’r heddlu wedi arestio 16 o bobol ers dechrau’r Gemau Olympaidd, wrth iddyn nhw geisio atal pobol rhag ail-werthu tocynnau am brisiau uwch.
Cafodd pump o bobol eu harestio am dowtio tocynnau cyn y seremoni agoriadol ddydd Gwener.
Cyhuddwyd dau o’r rheini, Almaenwr 57 oed a dynes 30 oed o Slovakia, o dowtio tocynnau, meddai Scotland Yard.
Arestiwyd 11 o bobol eraill ddoe, ac fe gafodd dau arall eu dal ar amheuaeth o ddwyn trwyddedau i ddefnyddio ffyrdd Olympaidd.
“Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed er mwyn atal pobol rhag towtio tocynnau,” meddai’r Ditectif Uwch-arolygydd Nick Downing.
“Fe fyddwn ni’n gweithredu’n llym er mwyn atal unrhyw un sy’n ceisio cymryd mantais o’r Gemau fel hyn.
“Mae towtio tocynnau yn erbyn y gyfraith ac yn cymryd mantais o’r rheini sydd yn dymuno mwynhau’r Gemau.
“Dylai pobol ochel rhag prynu tocynnau gan y troseddwyr hyn. Rydych chi’n talu dros y pris gwreiddiol am y tocyn ac yn ariannu troseddau eraill.”
Ychwanegodd y gallai troseddwyr ddwyn manylion cerdyn credyd unrhyw un a oedd yn prynu tocynnau ganddyn nhw.