Mae arweinydd yr SNP yn San Steffan wedi galw am amddiffyn milwyr sy’n datgelu sgandalau o fewn y lluoedd arfog.

Ar hyn o bryd does dim hawl gan filwyr drafod eu gwaith gydag Aelodau Seneddol, Aelodau o’r Senedd Ewropeaidd, Aelodau Cynulliad Cymru a Gogledd Iwerddon, nac Aelodau Senedd yr Alban.

Mae’n rhaid iddyn nhw gael caniatáu gweinidogion y Weinyddiaeth Amddiffyn cyn gwneud hynny.

Gofynnodd yr AS Angus Robertson: “Beth sydd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i’w guddio?”

Dywedodd y dylai “sgandalau” fel diffyg cit a’r “camgymeriadau lu y mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gyfrifol amdanyn nhw” ddod i’r amlwg.

Llwyddodd Angus Robertson i gael gafael ar gyfarwyddiadau’r Weinyddiaeth Amddiffyn i aelodau’r lluoedd arfog drwy’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Mae’n dweud bod aelodau o’r lluoedd arfog “yn atebol i weinidogion” ond nad ydyn nhw’n “atebol i’r Senedd”.

“Ni ddylai gweision y Goron gysylltu â seneddwyr os nad yw’r Ysgrifennydd Gwladol neu weinidog priodol yn caniatáu hynny,” meddai.

Mae rheolau Llywodraeth San Steffan yn dweud nad oes hawl gan gyflogwyr atal eu gweithwyr rhag datgelu gwybodaeth ynglŷn ag ymddygiad anghyfreithlon, amhriodol neu esgeulus.

Gofynnodd Angus Robertson pam bod y rheolau yn wahanol yn achos gweithwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn.

“Mae’n gwbl annerbyniol bod unrhyw un yn cael penderfynu beth mae unigolyn yn cael ei ddweud wrth ei Aelod Seneddol,” meddai.

“Ein gwaith ni yw sicrhau bod y Llywodraeth, gan gynnwys y Weinyddiaeth Amddiffyn, yn atebol.

“Wrth i’r Weinyddiaeth Amddiffyn dorri’n ôl mae’n bwysicach nag erioed bod modd i aelodau’r lluoedd arfog drafod amheuon ynglŷn â chamymddygiad neu gamweddau eraill.”

Ychwanegodd llefarydd ar ran yr SNP y byddai Alban annibynnol yn wlad decach ac y byddai gan aelodau’r lluoedd arfog yr un hawl i drafod â gwleidyddion a phob gweithiwr arall.