Ryan Giggs
Mae rhai o aelodau tîm pêl-droed GB yn y Gemau Olympaidd wedi cael eu beirniadu am iddyn nhw beidio â chanu ‘God Save the Queen’ cyn y gêm yn erbyn Senegal neithiwr.
Roedd miloedd o gefnogwyr tîm GB wedi trydar neithiwr yn erbyn penderfyniad y Cymry i beidio â chanu’r anthem Brydeinig.
Gadawodd Ryan Giggs a Craig Bellamy eu cegau ar gau yn ystod yr anthem cyn gêm gyntaf Tîm GB yn y Gemau Olympaidd yn Old Trafford neithiwr.
Rhoddodd Craig Bellamy y tîm cartref ar y blaen yn yr hanner cyntaf ond sgoriodd Moussa Konate i’r ymwelwyr gyda deng munud yn weddill i’w gwneud hi’n 1-1.
Dywedodd llefarydd ar ran Gymdeithas Olympaidd Prydain wrth y Daily Mail mai penderfyniad y chwaraewyr ydi hi i ganu’r anthem ai peidio, ond y dylai bob athletwr Prydeinig “ddangos parch.”
Fe wnaeth dwy Albanes benderfynu peidio â chanu’r anthem Brydeinig cyn gêm gyntaf tîm pêl-droed y merched nos Fercher.
Cafodd y ddwy eu beirniadu’n llym am beidio â chanu ‘God Save the Queen’, sy’n cynnwys y frawddeg “Rebellious Scots to crush.”
Tîm GB 1 – 1 Senegal
Roedd rheolwr Tîm GB, Stuart Pearce, yn siomedig â’r gêm gyfartal gan ddweud mai “nerfau” oedd wedi cael y gorau o’i dîm yn ystod y gêm.
Roedd capten Tîm GB, Ryan Giggs, yn feirniadol o daclo caled y tîm o Affrica.
Daeth Joe Allen a Craig Bellamy oddi ar y cae oherwydd anafiadau, ond mae disgwyl i’r ddau fod yn holliach ar gyfer y gêm yn erbyn UAE ddydd Sul.
“Wyddwn i ddim faint o weithiau wnaeth Sadio Mane (chwaraewr Senegal) droseddu, ond yn yr Uwchgynghrair, byddai wedi cael ei ddanfon o’r cae ddwy neu dair gwaith,” meddai Ryan Giggs.
Cafodd y tîm cartref wrthod cic o’r smotyn wedi i Craig Bellamy gael ei lorio tu fewn i’r cwrt cosbi pan oedd y gêm yn 1-0 i dîm GB.