Mae’r gwasanaeth rhwydweithio cymdeithasol a meicro-flogio Trydar wedi cael ei daro gan nam technegol heddiw.

Doedd y safle twitter.com ddim ar gael am bron i awr.

Roedd y gwasanaeth yn parhau i fod ar gael ar ei safle symudol.

Tydi hi ddim yn glir beth a achosodd y nam.

Mae disgwyl y bydd miloedd yn trydar yn ystod y Gemau Olympaidd, gan fod digwyddiadau chwaraeon yn tueddu i ddenu nifer uchel o drydarwyr.

Yn ystod Gemau Llundain 2012 bydd 2,000 o Olympiaid wedi dweud y byddan nhw’n trydar.