Yr Alban fydd y rhan gyntaf o’r Deyrnas Unedig i gyflwyno priodasau hoyw, ar ôl i’r SNP cyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu newid y drefn.

Cadarnhaodd y weinyddiaeth yn Holyrood eu bod nhw’n bwriadu cyflwyno mesur yn cyfreithloni priodasau hoyw.

Dywedodd y llywodraeth bod y newid yn ymateb i ymgynghoriad sydd wedi denu 77,508 o ymatebion, y rhan fwyaf yn rhai o blaid y newid.

Mae’r Eglwys Gatholig ac Eglwys yr Alban yn gwrthwynebu newid y gyfraith.

Ond dywedodd y llywodraeth na fydd unrhyw enwad yn cael ei orfodi i gynnal seremonïau priodasau hoyw.

“Rydyn ni’n benderfynol o sicrhau bod yr Alban yn wlad deg a chydradd ac felly rydyn ni’n bwriadu bwrw ymlaen â chynlluniau i ganiatáu priodasau hoyw,” meddai dirprwy brif weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon.

“Rydyn ni’n ymwybodol bod arweinwyr y pleidiau eraill yn y senedd yn cefnogi’r ddeddfwriaeth.”

Mae’r mater wedi achosi rhywfaint o anghydfod o fewn yr SNP. Dywedodd cyn-arweinydd y blaid, Gordon Wilson, y gallai elyniaethu pobol a oedd yn ystyried pleidleisio dros annibyniaeth yn 2014.

Mae Llywodraeth San Steffan yn bwriadu newid y ddeddf yng Nghymru a Lloegr erbyn 2015 ac yn ymgynghori ar hyn o bryd.