Yn ol ffigyrau’r llywodraeth ar gyfer mis Ionawr, mae graddfa chwyddiant wedi codi at 4%. Roedd yn 3.7% ym mis Rhagfyr.

Wrth ymateb i’r ffigyrau, dywedodd Llywodraethwr Banc Lloegr, Mervyn King, bod ‘cryn dipyn o ansicrwydd’ ynglyn a chwyddiant dros gweddill y flwyddyn.

Mewn llythyr at y Canghellor, George Osborne, dywedodd ei fod yn disgwyl i’r raddfa godi hyd at 5% dros y misoedd nesa. Ychwanegodd bod cryn dipyn o wahaniaeth barn ymhlith gwneuthurwyr polisi’r Banc ynglyn a’r risg a ddaw yn sgil y rhagolygon hynny.

“Mae’r codiad graddfa diweddara yma,” meddai, yn ganlyniad i godi graddfa TAW, gwerth isel y bunt a’r cynnydd ym mhrisiau ynni.”