Rebekah Brooks
Fe fydd wyth o bobol, gan gynnwys cyn-olygydd y Sun, Rebekah Brooks, yn wynebu cyhuddiadau ynglŷn â hacio ffonau symudol, cyhoeddodd Gwasanaeth Erlyn y Goron heddiw.

Fe fydd Rebecca Brooks yn wynebu dau gyhuddiad – un yn ymwneud â chael mynediad at negeseuon ffôn symudol Milly Dowler.

Mae cyn-bennaeth cyfathrebu David Cameron, Andy Coulson, hefyd wedi ei gyhuddo mewn cysylltiad â hacio ffôn Milly Dowler, meddai ymgynghorydd cyfreithiol Gwasanaeth Erlyn y Goron, Alison Levitt QC.

Bydd y ditectif preifat Glenn Mulcair a nifer o gyn-staff ym mhapur newydd y News of the World hefyd yn wynebu cyhuddiadau.

Dywedodd Alison Levitt ei bod hi wedi derbyn 13 ffeil gan yr heddlu, cyn penderfynu fod siawns “rhesymol” o sicrhau euogfarn yn achos wyth ohonyn nhw.

Fe fydd pob un ohonyn nhw heblaw am Glenn Mulcaire yn wynebu cyhuddiadau o gynllwynio i gael mynediad at gyfathrebiadau rhwng 3 Hydref, 2000 a 9 Awst, 2006.