Mae’r cyfreithiwr James Ward, a gafodd ei saethu yn ei swyddfa ar Orffennaf 2, wedi marw yn yr ysbyty.

Roedd wedi bod mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Frenchay ym Mryste ar ôl y digwyddiad yn swyddfa cyfreithwyr Morris, Goddard & Ward yn Devizes, Wiltshire.

Mae Michael Chudley wedi cael ei gyhuddo o geisio’i lofruddio, o fygwth lladd ac o fod ag arfau yn ei feddiant, ac fe fydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Winchester ar Fedi 24.

Roedd James Ward yn brif bartner y cwmni cyfreithwyr.