llun cyhoeddusrwydd
Mae cyfres o gwynion yn erbyn y gwasanaeth iechyd wedi datgelu esgeulusdod yng ngofal pobl hŷn, yn ôl ombwdsman y gwasanaeth iechyd.

Yn ôl Ann Abraham, mae’r adroddiad yn trafod 10 cwyn sy’n ymwneud ag esgeulusdod o anghenion sylfaenol iawn.

Mewn un achos, cafodd claf ei drosglwyddo i gartef gofal gan ambiwlans. Erbyn iddo gyrraedd y cartref, roedd yn gleisiau i gyd, wedi ei orchuddio ag wrin ac yn gwisgo dillad rhywun arall.

Mewn achos arall, cafodd peiriant cynnal bywyd dyn ei ddiffodd, er gwaethaf ceisiadau gan ei deulu i’r gwrthwyneb.

Angen ‘trawsnewid ar frys’

Rhybuddiodd Ann Abraham nad oedd rhain yn eithriadau prin a bod angen i agwedd negyddol rhai yn y gwasanaeth iechyd newid “ar frys.”

Derbyniwyd rhyw 90,000 o gwynion ynglyn â’r gwasanaeth iechyd gan yr ombwdsman y llynedd – roedd 18% ohonyn nhw yn ymwneud â gofal pobl hŷn.

“Mae’r esgeulusdod a’r diofalwch yma yn dangos diffyg ystyriaeth o urddas a lles cleifion hŷn.”

Manylodd yr adroddiad ar fethiant i ddarparu amgylchiadau glân a chyfforddus, help wrth fwyta, yfed, darpariaeth dŵr, a’r gallu i alw rhywun a fyddai’n ymateb. Roedd hefyd methiannau mewn rheoli poen, gweithredu trefniadau a chyfathrebu gyda chleifion a’u perthnasau.

Doedd hanner y bobl ddim yn cymryd digon o ddŵr na bwyd yn ystod eu hamser yn yr ysbyty ac roedd achosion o bobl hŷn yn cael eu gadael heb eu golchi ac mewn dillad brwnt. Dywedodd Ann Abraham nad fyddai arian yn unig yn ddigon i helpu’r gwasanaeth iechyd i daclo’r esgeulusdod hyn.

Cyfaddefodd Steve Jamieson, o’r Coleg Nyrsio Brenhinol, ar Radio 4 y bore ’ma fod angen “trawsnewid” gofal cleifion gan y gwasanaeth iechyd “yn llwyr.”

Dywedodd y gweinidog dros wasanaethau gofal, Paul Burston, fod “yr adroddiad hyn yn datgelu’r angen i ddiweddaru ein gwasanaeth iechyd. Mae angen diwylliant arnon ni lle mae arferion gwael yn cael eu herio, a lle mae safon yn uchelgais.”