Bu farw bachgen saith oed ar ôl dioddef anafiadau i’w ben wedi damwain mewn amgueddfa awyr agored yn Durham ddoe.

Aethpwyd a gyrrwr injan stem i’r ysbyty yn dioddef o sioc yn dilyn y ddamwain, a ddigwyddodd toc cyn 3 o’r gloch brynhawn ddoe yn Amgueddfa Beamish.

Yn ôl aelodau o’r gwasanaeth Ambiwlans cafodd y bachgen ei daro gan drelar y cerbyd, a bu farw yn y fan a’r lle er gwaethaf ymdrechion parafeddygon i achub ei fywyd.

Dywedodd yr Arolygwr Steve Dowdle o Heddlu Durham fod y gyrrwr yn cael ei ystyried yn “dyst”.

“Dyw gwybodaeth am y rhai a oedd yn rhan o beth ddigwyddiad ddim am gael ei gyhoeddi, er rydym ar ddeall nad oedd yr un ohonynt yn ymwelwyr â’r amgueddfa,” ychwanegodd Steve Dowdle.

Mae Amgueddfa Beamish yn dangos sut oedd bywyd yn 1913 – mae yna fferm, tram ac ysgol yno.